Ymateb y Llywodraeth: Rheoliadau Bwydydd Newydd (Awdurdodiadau) a Chyflasynnau Mwg (Addasu Awdurdodiadau) (Cymru) 2022

Mae pum pwynt Craffu Technegol wedi cael eu codi, tri yn unol â Rheol Sefydlog 21.2(v), a dau yn unol â 21.2(vi). Mae un pwynt Craffu ar Rinweddau wedi cael ei godi yn unol â Rheol Sefydlog 21.3(ii).

 

Pwynt Craffu Technegol 1:

Mae’r lefelau uchaf o asid Docosahecsenoig (DHA) yn y cynhyrchion hyn ar gyfer y categori bwyd penodedig o fformiwla babanod a fformiwla ddilynol i’w nodi drwy gyfeirio at EUR 2013/609. Mae EUR 2013/609 yn darparu ar gyfer gofynion o ran cyfansoddiad a gwybodaeth ar gyfer fformiwla babanod a fformiwla ddilynol. Mae Erthygl 4 yn darparu mai dim ond os bydd fformiwla babanod a fformiwla ddilynol yn cydymffurfio â’r Rheoliad y caiff ei marchnata. Mae Erthyglau 6, 9 a 10 yn cynnwys gofynion cyffredinol. Mae Erthygl 15(6) yn ei gwneud yn ofynnol i sylweddau sy’n perthyn i gategorïau nas restrir yn Erthygl 15(1) sy’n cael eu hychwanegu at fwydydd o fewn cwmpas Erthygl 1(1) (gan gynnwys fformiwla babanod a fformiwla ddilynol) fodloni’r gofynion cyffredinol a nodir yn Erthyglau 6 a 9 a, pan fo’n gymwys, y gofynion penodol a sefydlwyd yn unol ag Erthygl 11. Mae EUR 2016/127 yn cynnwys y gofynion penodol perthnasol o ran cyfansoddiad a gwybodaeth ar gyfer fformiwla babanod a fformiwla ddilynol. Gellir gweld y lefelau uchaf ac isaf ar gyfer DHA yn Atodiad 2, paragraff 4.6. Fodd bynnag, rhaid cymhwyso’r lefelau uchaf a nodir yn EUR 2016/127 yng nghyd-destun y gofynion cyffredinol ehangach yn EUR 2013/609.

Defnyddiwyd y dull hwn er mwyn sicrhau cysondeb â darpariaethau cyfatebol yn y cofnodion presennol ar gyfer bwydydd newydd awdurdodedig a restrir yn EUR 2017/2470. Mae hefyd yn gyson ag awdurdodiad y cynhyrchion hyn fel sy’n gymwys yng Ngogledd Iwerddon (a’r Undeb Ewropeaidd) fel y nodir yn y cofnodion cyfatebol yn y rhestr yn Rheoliad (EU) 2017/2470 fel y mae’r Rheoliad hwnnw yn parhau i fod yn gymwys yn yr UE a Gogledd Iwerddon. 

 

Pwynt Craffu Technegol 2:

At y dibenion hyn, nid yw Llywodraeth Cymru yn ystyried bod gwahaniaeth rhwng “infants and children under 3 years of age” ac “infants and young children”.

Y bwriad yma yw sicrhau bod y gofynion labelu ar gyfer cynhyrchion o dan yr awdurdodiadau ledled y Deyrnas Unedig yr un peth â’r gofynion labelu sy’n gymwys i’r un cynhyrchion yng Ngogledd Iwerddon (a’r UE) o dan y cofnodion cyfatebol yn Rheoliad (EU) 2017/2470 fel y mae’r Rheoliad hwnnw yn parhau i fod yn gymwys yn yr UE a Gogledd Iwerddon.

 

Pwynt Craffu Technegol 3:

Mae’r penawdau i’r Atodlenni yn adlewyrchu natur wahanol y darpariaethau a wneir ym mhob Atodlen.

Mae Atodlenni 2 a 3 yn ymwneud â dau straen penodol o “olew Schizochytrium sp.”.  Mae’r straeniau hynny eisoes wedi eu hawdurdodi i gael eu rhoi ar y farchnad o dan y cofnod cyffredinol ar gyfer “Schizochytrium sp. oil” (sy’n gymwys i bob straen). Mae’r cofnodion newydd a fewnosodir gan Atodlenni 2 a 3 yn creu cofnodion ar wahân ar gyfer y ddau straen, ar gyfer y defnyddiau bwyd penodol a restrir, sydd eisoes wedi eu hawdurdodi yn rhannol o dan y cofnod cyffredinol presennol.

Mae Atodlenni 4 a 5 yn mewnosod cofnodion newydd sy’n awdurdodi rhoi mathau newydd o fwydydd newydd ar y farchnad am y tro cyntaf.

 

Pwynt Craffu Technegol 4:

Mae’r Llywodraeth yn cytuno mai gwall teipograffyddol yw’r cyfeiriad at “6’-sialy-llactulose” yn Atodlen 5. Dylai ddarllen “6’-sialyl-lactulose”.

Mae’r gwall i’w weld dim ond yn nhestun naratif yr adran o dan y pennawd ‘Description’; mae’r prif gyfeiriad yn yr adran o dan y pennawd ‘Characteristics/ Composition’ yn gywir. 

Bydd y Llywodraeth yn ceisio cywiro’r gwall teipograffyddol hwn drwy gyhoeddi slip cywiro.

 

Pwynt Craffu Technegol 5:

Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn y pwynt.

Mae’r gwallau teipograffyddol i’w gweld yn y penawdau i reoliadau 6 a 7, ac yn y testun agoriadol sy’n nodi lleoliad y diwygiadau arfaethedig i EUR 2013/1321. Nid yw’r Llywodraeth o’r farn bod risg o ddrysu o ran pa gofnodion yn EUR 2013/1321 sy’n cael eu diwygio – nid yw’n bosibl drysu’r cofnodion ag unrhyw gofnodion eraill yn y rhestr. At hynny, mae ‘codau unigryw’ y cynhyrchion wedi eu nodi’n gywir.

Fodd bynnag, gan fod y gwallau’n ymwneud ag enw’r cynhyrchion, mae’r Llywodraeth o’r farn ei bod yn briodol eu cywiro – a bydd yn ceisio gwneud hyn drwy gyhoeddi slip cywiro.

 

Pwynt Craffu ar Rinweddau:

Mae Rhan 2 o’r offeryn hwn yn mewnosod cofnodion newydd yn y rhestr o fwydydd newydd awdurdodedig yn EUR 2017/2470. Gwneir y diwygiadau hynny yn unol â’r penderfyniadau o ran chwe chais ar wahân a wnaed o dan EUR 2015/2283. Fel y nodwyd ym mharagraff 12 o’r Memorandwm Esboniadol – roedd dau o’r ceisiadau hynny yn ymwneud â cheisiadau ar wahân am awdurdodiad ar gyfer yr un cynnyrch (“olew Schizochytrium sp. (FCC-3204)”) at ddau ddefnydd bwyd gwahanol. Mae’r awdurdodiad yn unol â’r penderfyniad o ran y ddau gais hynny wedi ei gynnwys yn y cofnod a fewnosodir gan Atodlen 2 i’r offeryn hwn.